Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025

Amser: 09.01 - 09.41
 


Remote / Private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Jane Hutt AS

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

 

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Jane Dodds

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai’n ateb Cwestiynau Llafar yn lle’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni heddiw oherwydd salwch. Nododd y Trefnydd hefyd y newidiadau a ganlyn i’r agenda heddiw:

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Iechyd a lles anifeiliaid (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: EURO Menywod UEFA 2025 (45 munud) Datganiad Ysgrifenedig

 

Gofynnodd Heledd Fychan pam nad oedd y datganiad ar EURO Menywod UEFA 2025 yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn absenoldeb y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Nododd y Trefnydd ei bod wedi nodi’r pwynt a wnaed.

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Plant sydd ar yr ymylon (60 munud) Gohiriwyd tan 12 Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 11 Mawrth 2025

·         Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 (15 munud)

 

Cynigiodd y Trefnydd gyfnewid y Cwestiynau Llafar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am y cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, sydd i’w cynnal ar 26 Mawrth a 2 Ebrill yn y drefn honno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes â’r cynnig.

 

Gofynnodd Heledd Fychan a yw’r Trefnydd wedi ystyried datganiad llafar ar ddiwygiadau pensiwn Llywodraeth y DU a’r goblygiadau i Gymru. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 12 Mawrth 2025 –

 

Dydd Mercher 19 Mawrth 2025 –

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Llythyr oddi wrth Luke Fletcher AS ynghylch NNDM8829 - dadl ar Fil Ystad y Goron

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais gan Luke Fletcher AS i neilltuo amser i ddadl ar NNDM8829 ynghylch Bil Ystad y Goron. Dywedodd y Trefnydd nad yw’r Llywodraeth yn cytuno bod angen dadl ar frys cyn toriad Hanner Tymor, o gofio bod y Bil wedi’i gyflwyno yn San Steffan ym mis Gorffennaf 2024. Nododd safbwynt Llywodraeth Cymru y dylai Ystad y Goron gael ei datganoli i Gymru ac y byddai’r Llywodraeth yn barod i gyflwyno cynnig ar Ystad y Goron o fewn amser y llywodraeth yn ddiweddarach

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a:

 

 

Nododd y Trefnydd y sefyllfa annymunol y mae hyn yn rhoi’r Senedd ynddi gan ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i godi pwysigrwydd y broses cydsynio deddfwriaethol fel ffactor i Lywodraeth y DU fod yn ymwybodol ohono wrth lunio amserlenni ar gyfer ei deddfwriaeth.

 

 

</AI9>

<AI10>

4.2   Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ynghylch Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 at y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, ac i ofyn i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad erbyn 10 Mawrth 2025, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, cyn dadl yn y Senedd ar y Rheoliadau ar 11 Mawrth 2025.    

 

 

</AI10>

<AI11>

5       Gwaith Gweithdrefnol

</AI11>

<AI12>

5.1   Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar newidiadau posibl i’r Rheolau Sefydlog ynghylch gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan.

 

Dywedodd y Trefnydd nad yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod angen newid y Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd, yng ngoleuni adolygiad statudol o’r Ddeddf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried newidiadau posibl i’r Rheolau Sefydlog ymhellach yn dilyn adolygiad Llywodraeth y DU a’i adolygiadau ei hun o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod.

 

</AI12>

<AI13>

6       Unrhyw fater arall

Sesiwn gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni yn mynd i gyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 4 Mawrth i drafod pumed flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>